P-05-694 – Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cai Ellerton ar ôl casglu 16 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

​​​​​Rwyf yn ysgrifennu i ofyn ichi ystyried fy neiseb.  Fel mae rhieni, athrawon a myfyrwyr/disgyblion yn gwybod, mae ysgolion cynradd yn dechrau am 08:45 ac mae ysgolion uwchradd yn dechrau am 08:30. Hoffwn i ysgolion ddechrau awr yn hwyrach yn y bore, sy'n golygu y byddai ysgolion cynradd yn dechrau am 09:45 ac ysgolion uwchradd yn dechrau am am 09:30.

Mae prawf yn Lloegr wedi dangos bod myfyrwyr yn sicrhau gwell canlyniadau arholiad os yw ysgol yn dechrau awr yn hwyrach.

 

Diolch ichi am ystyried y cais hwn.

Cai Ellerton, 13.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·        Bro Morgannwg

·        Canol De Cymru